BETAThis is a new independent transparency project, not an official government website. The data is sourced from public registers and may contain errors, so always verify against the official source. If you find a problem, please report it here.
1. CyflwyniadMae’r ddogfen hon yn amlinellu manylebau prosiect cynhwysfawr Tech4Tourism sy’n cwmpasu tair lot ar wahân ond sy’n gydberthnasol: y Dangosfwrdd Twristiaeth Lleoedd CLYFAR a’r Platfform Negeseuon Awtomatig, datblygiad pellach ap Stori Môn (mae manylion yr ap wedi’i gynnwys yn Adran 3 y Gwahoddiad i Dendro hwn), a hyrwyddo ap Stori Môn. Nod y cynlluniau hyn, a ddyluniwyd gan M-SParc, yw gwella’r gwaith o reoli ymwelwyr, lliniaru effaith llifau traffig uchel yn ystod y cyfnodau prysuraf, gwella mynediad at Goedwig Niwbwrch a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, a chysylltu ymwelwyr â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Ynys Môn.1.1 CefndirYn dilyn trafodaethau gyda Chyngor Sir Ynys Môn, Cyfoeth Naturiol Cymru a Phrifysgol Bangor ynghylch eu gofynion a’u hanghenion i sicrhau diwydiant twristiaeth mwy cynaliadwy a chysylltiedig yn y rhanbarth, bydd y prosiect hwn yn targedu anghenion penodol yn Nhraeth Niwbwrch ac ar draws Ynys Môn, gyda’r potensial i ehangu yn y dyfodol os bydd yn llwyddiannus. Mae’r prosiect Tech4Tourism wedi’i rannu’n dair lot:Lot 1: Dangosfwrdd Twristiaeth Lleoedd CLYFAR a Phlatfform Negeseuon AwtomatigLot 2: Datblygu Platfform Stori MônLot 3: Hyrwyddo Ap Stori MônMae’r prosiectau Tech4Tourism hyn gyda'i gilydd yn ceisio:Defnyddio technoleg i ddenu mwy o ymwelwyr i Ynys Môn, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr ac effaith economaidd twristiaeth, yn ogystal â lleihau’r effaith ecolegol.Gweld cynnig diwylliannol a threftadaeth arloesol a gwell sy’n seiliedig ar dechnoleg Gêm Realiti Estynedig mewn ap. Bydd y cynnwys yn cael ei ddatblygu gan y gymuned er budd yr Economi Ymwelwyr, gan ennyn balchder mewn lle.Gwella’r gwaith o reoli llif ymwelwyr a chydbwysedd llwythi gan ddefnyddio data amser real.Gwella cyfathrebu drwy rybuddion awtomatig ac integreiddio cyfryngau cymdeithasol.Hyrwyddo teithio cynaliadwy.Cysylltu ymwelwyr â threftadaeth ddiwylliannol Ynys Môn drwy brofiadau rhyngweithiol ac addysgol.1.2 Trosolwg o'r ProsiectMae’r prosiect Tech4Tourism hwn, a ariennir gan raglen SPF drwy Gyngor Ynys Môn, yn chwilio am gontractwyr cymwys ar gyfer y canlynol:Lot 1: Dangosfwrdd Twristiaeth Lleoedd CLYFAR a Phlatfform Negeseuon AwtomatigDatblygu platfform prawf o gysyniad sy’n defnyddio’r synwyryddion presennol ar Draeth Niwbwrch.M-SParc fydd yn berchen ar y platfform terfynol a gall gynnig gwasanaethau cynnal a chadw i CSYM ar gais.Lot 2: Datblygu Platfform Stori MônDatblygu ap dwyieithog Stori Môn ymhellach, sydd â phrofiadau addysgol a diddorol mewn Realiti Estynedig (AR).Mae’r ap yn galluogi defnyddwyr i archwilio dros 100 o dirnodau hanesyddol ar draws 5 tref Ynys Môn (Amlwch, Biwmares, Caergybi, Llangefni a Phorthaethwy) gan ddefnyddio technoleg realiti estynedig.Diweddaru platfform presennol Stori Môn i gynnwys tref newydd (i’w gadarnhau), gan ehangu ei gyrhaeddiad a’i gynnwys.Gweithio gyda phobl leol a gwirfoddolwyr i gasglu’r wybodaeth sydd ganddynt am y drefLot 3: Hyrwyddo Ap Stori MônDatblygu a gweithredu strategaeth farchnata gynhwysfawr i godi ymwybyddiaeth o ap Stori Môn ac annog pobl i lwytho’r ap i lawr.Trefnu digwyddiadau a gweithgareddau i ddenu pobl leol a thwristiaid i ddefnyddio’r ap? Neu i ymweld â lleoliad?Cydweithio â busnesau lleol, cymdeithasau twristiaeth a sefydliadau addysgol i hyrwyddo’r ap.Ceisio cynyddu’n sylweddol nifer y bobl sy’n llwytho’r ap i lawr, gwella ymgysylltiad defnyddwyr, a hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol yr ynys drwy naratifau a phrofiadau Realiti Estynedig yr ap.2. Lot 1: Dangosfwrdd Twristiaeth Lleoedd CLYFAR a Phlatfform Negeseuon Awtomatig2.1 Casglu DataDefnyddio Synwyryddion Presennol: Defnyddio data o synwyryddion sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar Draeth Niwbwrch i amcangyfrif nifer yr ymwelwyr a dadansoddi ymddygiad (Synwyryddion Cyfoeth Naturiol Cymru).2.2 DangosfwrddDelweddu Amser Real: Dangos data amser real ar nifer yr ymwelwyr, tueddiadau a mannau posibl ar gyfer tagfeydd ar Draeth Niwbwrch.Gweddau y gellir eu haddasu: Cynnig dangosfwrdd y gellir ei addasu ar gyfer aelodau tîm y cyngor a’r sefydliad cysylltiedig.2.3 Negeseuon AwtomatigSystem Rybuddio: Datblygu system rhybuddion awtomatig ar gyfer timau dynodedig, negeseuon e-bost a systemau’r cyngor yn seiliedig ar drothwyon a ddiffiniwyd ymlaen llaw yn ymwneud â niferoedd neu ymddygiad ymwelwyr.Integreiddio Cyfryngau Cymdeithasol: Defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol (ee Twitter, Instagram) i rannu negeseuon awtomatig yn ymwneud â chapasiti’r traeth neu wybodaeth berthnasol arall, gan hyrwyddo teithio cynaliadwy.Potensial ar gyfer Integreiddio Arwyddion Ffyrdd: Edrych ar y posibilrwydd o integreiddio ag arwyddion ffyrdd i roi diweddariadau amser real i ymwelwyr (yn amodol ar drafodaeth bellach ac astudiaethau dichonoldeb).Dangosydd dichonoldeb / dangosydd posibl System Goleuadau Traffig Deallus: Gwaith cychwynnol ar reoli system goleuadau traffig deallus, sy’n gofyn am fewnbwn cynnar gan yr Adran Priffyrdd. Os nad yw’n ymarferol, gellir cael gwared ar hyn yn gynnar.2.4 Nodweddion Ychwanegol Cynllun Peilot a ThreialEfallai y bydd rhybuddion yn cael eu hanfon i sgrin yng Nghaffi Tanio yn M-SParc at ddibenion treial.2.5 Gofynion AnswyddogaetholPerfformiad: Ymdrin â data amser real yn effeithlon gydag amseroedd ateb cyflym.Diogelwch: Rhoi mesurau diogelwch cadarn ar waith ac amgryptio data ar gyfer ei drawsyrru a’i storio.Y gallu i dyfu: Llunio platfform gyda’r potensial i ehangu i ardaloedd eraill yn y dyfodol.Cymorth: Darparu pecyn cymorth am 12 mis o ddyddiad trosglwyddo’r system.2.6 Pwyntiau IntegreiddioIntegreiddio â Systemau Presennol y Cyngor: Sicrhau cysondeb data.Archwilio Integreiddiadau Posibl yn y Dyfodol: Gyda llwyfannau allanol (ee arwyddion ffordd, arosfannau bysiau).2.7 Pentyrrau TechnegolBydd y technolegau, y fframweithiau ac ieithoedd y rhaglenni yn cael eu pennu yn ystod y cam datblygu, gan ystyried y gallu i dyfu, y gallu i gynnal a chadw, ac arferion gorau’r diwydiant.2.8 Rolau a Hawliau DefnyddwyrDiffinio rolau defnyddwyr (ee gweinyddol, aelod o dîm y cyngor, aelod cysylltiedig o’r sefydliad) gyda hawliau wedi’u diffinio’n glir a mecanweithiau dilysu/awdurdodi diogel.2.9 Profi a Sicrhau AnsawddAmlinellu dull profi cynhwysfawr gan gynnwys profi unedau, profi integreiddio, a phrofi derbynioldeb i’r defnyddiwr. Sefydlu prosesau sicrhau ansawdd i gael platfform dibynadwy sy’n rhydd o namau.2.10 DogfennauDarparu llawlyfrau cynhwysfawr i ddefnyddwyr, dogfennau API, a dogfennau pensaernïaeth system ar gyfer datblygwyr, gweinyddwyr a defnyddwyr.Shape3. Lot 2: Datblygu Platfform Stori Môn3.1 TrosolwgDatblygu platfform Stori Môn, gan ddiweddaru’r meddalwedd os oes angen, ac ychwanegu tref arall.3.2 Trosolwg o Stori MônMae Stori Môn wedi’i greu gan Animated Technologies ac mae’n cael ei gefnogi gan M-SParc. Mae Stori Môn yn ap ffôn clyfar sy’n galluogi defnyddwyr i archwilio eu hamgylchedd awyr agored er mwyn symud ymlaen. Nodweddion yr ap:Archwilio Hanes: Mae defnyddwyr yn ymweld â dros 100 o dirnodau hanesyddol a lleoliadau go iawn ar draws 5 tref Ynys Môn (Amlwch, Biwmares, Caergybi, Llangefni a Phorthaethwy) i gasglu pwyntiau o ddiddordeb.Profiad Dwyieithog: Ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.Realiti Estynedig (AR): Mae’n cyfuno cynnwys o’r byd go iawn a chynnwys wedi’i gynhyrchu gan gyfrifiadur, gan annog defnyddwyr i archwilio a dod o hyd i fannau poblogaidd ar y map. Yn y mannau poblogaidd hyn, mae cymeriadau hanesyddol yn adrodd straeon byrion neu ffeithiau sy’n gysylltiedig â’r lleoliad.Manteision Addysgol: Annog gweithgarwch corfforol, cynyddu nifer yr ymwelwyr, a rhannu treftadaeth ddiwylliannol yr ynys.Mae’r cynnwys wedi’i gasglu gan yr hanesydd lleol Gerwyn James, gyda throslais i roi ffeithiau hanesyddol i’r defnyddwyr. Mae’r fersiwn gychwynnol yn gynllun peilot gyda chynnwys cyfyngedig, a bydd datblygiad pellach yn dibynnu ar gyllid. Nid oes angen gweithio ymhellach gyda Gerwyn James, ond rhagwelir y bydd y cwmni a benodir naill ai’n gweithio gyda hanesydd neu’r gymuned leol i wneud eu hymchwil eu hunain i hanes y dref.3.3 Datblygiadau NewyddDiweddariadau Meddalwedd: Diweddaru platfform Stori Môn yn ôl yr angen.Ehangu: Ychwanegu un dref arall at yr ap, gan ymestyn ei gyrhaeddiad a’i gynnwys.Shape4. Lot 3: Hyrwyddo Ap Stori Môn4.1 TrosolwgBydd yr ymgyrch hon yn annog ymwelwyr â’r ynys i ddefnyddio ap Stori Môn.4.2 Strategaeth HyrwyddoYmgyrch Farchnata: Datblygu a gweithredu strategaeth farchnata gynhwysfawr i godi ymwybyddiaeth o’r ap ac i annog pobl i lwytho’r ap i lawr.Mentrau Ymgysylltu: Trefnu digwyddiadau a gweithgareddau i ddenu pobl leol a thwristiaid a’u hannog i ddefnyddio’r ap.Cydweithio: Gweithio gyda busnesau lleol, cymdeithasau twristiaeth a sefydliadau addysgol i hyrwyddo’r ap.4.3 Canlyniadau DisgwyliedigCynyddu nifer y bobl sy’n llwytho’r ap i lawr: Ceisio cynyddu’n sylweddol nifer y bobl sy’n llwytho’r ap i lawr.Ymgysylltu â Defnyddwyr: Gwella’r ffordd mae defnyddwyr yn ymgysylltu ac yn rhyngweithio â chynnwys yr ap.Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol: Hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol yr ynys drwy naratifau a phrofiadau realiti estynedig yr ap.ShapeYmateb i’r tendr hwn:Dyddiadau Pwysig:Daw’r tendr i ben ar 16 AwstDyfernir y tendr ar 23 AwstProfi’r cynllun peilot ar gyfer Lot 1: Hydref 2024Cwblhau’r llwyfan a’r cynllun peilot ar gyfer Lot 1: Rhagfyr 2024Cwblhau diweddariadau Ap ar gyfer Lot 2: Hydref 2024Lansio ymgyrch ar gyfer Lot 3: Ionawr 2025Gwerthuso ac adrodd ar Lot 3: Mehefin 2025Anfonwch unrhyw gwestiynau at Tom Burke …@m-sparc.com erbyn 14 Awst 2024.Anfonwch eich tendr fel dogfen PDF dros e-bost at …@m-sparc.com erbyn 15 Awst 2024.Sylwch fod y prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, ac mae’n rhan o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, sy’n cael ei dosbarthu gan Gyngor Ynys Môn. Mae’r cyllidwr yn gofyn i’r gwaith (lot 3) gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2024 fan bellaf, gan ddosbarthu’r arian a chwblhau tystiolaeth o Lot 1 a Lot 2 erbyn mis Rhagfyr 2024. Cynghorir cwmnïau nad ydynt yn gallu bodloni’r terfynau amser hyn i beidio â
No supplier information available.
Published by the buyer on this notice. Check the original notice — details change and are not updated here.