BETAThis is a new independent transparency project, not an official government website. The data is sourced from public registers and may contain errors, so always verify against the official source. If you find a problem, please report it here.
Mae’r Ganolfan yn dymuno comisiynu cwmni i gynnal gwerthusiad o’r Cynllun ‘Cymraeg Gwaith’ wrth i’r cynllun weithredu ei chweched blwyddyn (2022-23). Mae’r Cynllun wedi derbyn dau werthusiad ers ei fodolaeth, un ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf (2017-18) a’r ail ar ddiwedd y drydydd flwyddyn (2019-20).Dylai’r gwerthusiad asesu effaith y cynllun, gan ganolbwyntio ar effeithiolrwydd y cynllun wrth ymateb i ddisgwyliadau sectorau a chyflogwyr amrywiol a gofynion Llywodraeth Cymru o’r cynllun. Dylai’r gwerthusiad hefyd archwilio beth all dyfodol y cynllun fod, ac os oes unrhyw rwystrau i gyflawni’r potensial. Mae hyn yn gallu cynnwys: Dylanwad y Cynllun ar Gynllunio a Datblygu Gweithluoedd Cymraeg, yn benodol drwy’r gwaith sectorol / partneriaethol. Ydy Cynllun Cymraeg Gwaith yn gyfrwng i brif ffrydio’r Gymraeg o fewn meysydd gwaith amrywiol Llywodraeth Cymru gan ychwanegu at werth ac allbynnau’r grant gwreiddiol. Ydy Cynllun Cymraeg Gwaith yn cyfrannu at amcan strategol Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr. Beth yw’r potensial i’r cynllun ymestyn ei weithgaredd i’r dyfodol, ac a oes sectorau sy’n cynnig eu hunain fel sectorau y dylai’r Ganolfan eu blaenoriaethu.NOTE: To register your interest in this notice and obtain any additional information please visit the Sell2Wales Web Site at https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=125658.
(WA Ref:125658)
No supplier information available.
Published by the buyer on this notice. Check the original notice — details change and are not updated here.