BETAThis is a new independent transparency project, not an official government website. The data is sourced from public registers and may contain errors, so always verify against the official source. If you find a problem, please report it here.
Mae cynllun Cymraeg yn y Cartref yn newydd ac yn rhoi ffocws pendant ar y teulu. Mae rhai o’r gweithgareddau a gynhelir fel rhan o’r rhaglen yn rhai sy’n hollol newydd i’r sector. Mae rhai eraill yn barhad neu yn ddilyniant o gynlluniau blaenorol. Mae’r Ganolfan yn awyddus i sicrhau bod yr holl weithgaredd yn cael ei werthuso yn annibynnol a bod tystiolaeth ar gael o ba elfennau o’r cynllun sydd wedi llwyddo ac a all esblygu i’r dyfodol. Byddai hefyd yn ddefnyddiol i ddeall sut y gall gweithgareddau’r rhaglen gefnogi polisi Trosglwyddo Iaith Llywodraeth Cymru i’r dyfodol.Prif nod yr astudiaeth hon yw gwerthuso effeithiolrwydd y rhaglen Cymraeg yn y Cartref, gan werthuso elfennau amrywiol y rhaglen. Mae copi o’r rhaglen yn Atodiad A.Yn ogystal disgwylir i’r gwerthusiad ystyried• a oes mwy o deuluoedd yn dysgu Cymraeg o ganlyniad i’r rhaglen• a yw ’r rhaglen yn Cefnogi Polisi Trosglwyddo Llywodraeth Cymru• A yw’r rhaglen yn cefnogi rôl y teulu i gynyddu defnydd o’r Gymraeg• Sut mae modd datblygu rhaglen Cymraeg yn y Cartref ymhellach yn y dyfodol.NOTE: To register your interest in this notice and obtain any additional information please visit the Sell2Wales Web Site at https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=121882.
(WA Ref:121882)
No supplier information available.
Published by the buyer on this notice. Check the original notice — details change and are not updated here.