BETAThis is a new independent transparency project, not an official government website. The data is sourced from public registers and may contain errors, so always verify against the official source. If you find a problem, please report it here.
Cytundeb Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus llawrydd cyfnod penodol- y gwaith wedi ei gwblhau erbyn diwedd Awst 2022.Y Gymraeg a Gwirfoddoli 2022- Cyfle cyffrous i gwmni neu unigolyn profiadol, proffesiynol a chymwys i weithio gyda ni ar Ran 3 cynllun arloesol Y Gymraeg a Gwirfoddoli 2022, sef: Ymgyrch Marchnata- Denu Gwirfoddolwyr.Bydd y cwmni llwyddiannus yn cyd-weithio gyda staff Mentrau Iaith Cymru (MIC) a staff endidau eraill i wireddu’r cynllun.Mae MIC wedi bod yn llwyddiannus gyda chais i Gronfa Strategol Gwirfoddoli Cymru. Mae’r Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru yn rhaglen ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac yn cael ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru.Y Gwaith:• Creu a gweithredu ymgyrch Marchnata, Hyrwyddo a Chyfathrebu ar gyfer y cynllun Gwirfoddoli a’r Gymraeg 2022• Ymgyrch fydd yn cynnwys elfennau yn y cyfryngau traddodiadol ac ar y cyfryngau cymdeithasol- rydym yn agored i syniadau gan enillwyr y cytundeb a bydd wedyn angen blaenoriaethu’r gyllideb i’r syniadau sy’n cael eu ffafrio• Y gynulleidfa darged i’r ymgyrch fydd y cyhoedd- rydym eisiau targedu gwirfoddolwyr i gefnogi'r endidau Cymraeg megis y Mentrau iaith, Yr Urdd, Mudiad Meithrin, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a'r Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal â denu gwirfoddolwyr i ddefnyddio eu Cymraeg i ba bynnag fudiad y maent yn gwirfoddoli- felly bydd angen defnyddio sawl llwyfan gwahanol i ledaenu’r ymgyrch• Lansio’r ymgyrch yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion Awst 2022 gan gynnwys cyd-drefnu a hyrwyddo’r digwyddiad lansioMudiad cenedlaethol yw MIC sy'n cefnogi gwaith y 22 Menter Iaith leol ledled y wlad www.mentrauiaith.cymruY cwmni/ unigolyn llwyddiannus:• Profiad eang o greu ymgyrchoedd Marchnata llwyddiannus• Dealltwriaeth o sefyllfa'r Gymraeg, Prosiect 2050 a'r Trydydd Sector yng Nghymru• Profiad o weithio mewn partneriaeth, o weithio gyda sawl mudiad/ cwmni ar y tro a phrofiad o weithio gyda gwirfoddolwyrAm fwy o wybodaeth a phecyn ymgeisio am y tendr cysylltwch ag Iwan Hywel, Pen Swyddog Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd) …@gwynedd.llyw.cymru Dyddiad Cau: 10.06.2022
(WA Ref:121759)The buyer considers that this contract is suitable for consortia bidding.
No supplier information available.
Published by the buyer on this notice. Details change and are not updated here.